Ar ddydd Gŵyl Dewi 1985 daeth nifer o Gymry gwladgarol ynghyd i dystio i seremoni ddadorchuddio cofeb unigryw ar gyrion Abertawe gan Gwynfor Evans.  Yng Ngharn Goch, gerllaw'r ysbyty ar gyrion Gorseinon fe welir y gofeb wenithfaen hardd i gofio am y cannoedd a fu farw dros Gymru bron i naw can mlynedd yn ôl.

 

Cyfnod cythryblus yng ngwleidyddiaeth Cymru oedd dechrau 80au'r ugeinfed ganrif.  Dair blynedd wedi i'r genedl wrthod senedd yng Nghaerdydd penderfynodd CADW gynnal dathliad o'r goresgyniad wyth gan mlynedd ynghynt gyda'u Gŵyl y Cestyll gwrthun.  Yn gyfeiliant cynganeddol i ymgyrchoedd llosgi a bomio daeth Gerallt Lloyd Owen gyda'r Cerddi'r Cywilydd yn ysgytwad i lawer un, a phenderfynodd nifer geisio gwrthwneud effaith Gŵyl y Cestyll trwy godi ymwybyddiaeth y Cymry at dreftadaeth y tywysogion Cymraeg ac fe sefydlwyd mudiad Cofiwn.

 

Yn Abertawe daeth criw ynghyd i ystyried sut y dylid coffau y frwydr waedlyd dros ryddid Cymru gerllaw'r ddinas ar ddydd Calan yn 1136.

 

 Gwladychwyd rhannau o Gymru, gan gynnwys Penrhyn Gŵyr, gan werinwyr Normanaidd yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg ac erbyn 1106 'roedd brenin Lloegr, Harri I, yn ddigon eofn yng Nghymru i rhoddi Gŵyr yn anrheg i Iarll Warwick, a hynny heb oresgyn y tir!  Bu brwydro ffyrnig, ond erbyn ugeiniau'r ddeuddegfed ganrif, wedi gweld y pris mewn gwaed daeth Gruffydd ap Rhys i gytundeb â Harri I a bu rhywfaint o heddwch.

 

Ond pery llid yn hwy na galar, ac ar ddydd Calan 1136, gyda Steffan bellach ar orsedd Lloegr, daeth Hywel ap Maredudd, pennaeth â chryn ddylanwad ganddo ym Mrycheiniog, gyda nifer fawr o Gymry tua Phenrhyn Gŵyr, am waed y Normaniaid.  Dynion Brycheiniog, Morgannwg a gogledd Gŵyr oedd cyfansoddiad y fyddin.  'Roedd y Normaniaid wedi hen arfer delio gyda grwpiau bychain o Gymry a'u gyrru i'w heglu hi am adref, ond y tro hwn bu cam-amcangyfrif ac ni ragwelwyd maint byddin y Cymry.

 

Aeth y ddwy fyddin ben-ben a'i gilydd am hanner dydd ar y dydd Calan hwnnw ar dir gerllaw ysbyty Garn Goch heddiw.  Bu galanas a bu farw cannoedd ar y ddwy ochr, 516 o'r Normaniaid yn ôl cofnodion o'r cyfnod.  Dywedir nad oedd yr olygfa a ddilynai'r frwydr yn un ddymunol, gyda chyrff y lladdedigion wedi cael eu llusgo o gwmpas y lle a'u hanner bwyta gan fleiddiaid fyddai'n teyrnasu yng nghors Einon.  Aeth byddin y Cymry yn ei blaen i losgi a rheibio de Gŵyr.

 

Dyma oedd dechrau rhyfel gwaedlyd y Cymry a'r Saeson rhwng 1136 ac 1137, y rhyfel a welodd Gwenllïan ddewr yn farw yng Nghydweli a'i gŵr – Gruffydd ap Rhys, o gyd-ddigwyddiad, yn marw ym Mhenllergaer rai misoedd yn ddiweddarach.

 

 

Nid cyd-ddigwyddiad, mae'n debyg, yw'r enwau Garn Goch, Cadle a Blaen-y-Maes yng nghyffiniau'r frwydr, ac wrth sefyll ar faes y frwydr fe welir twmpyn bychan ar dir cyfagos gydag ambell i goeden ar ei ben – yma medd rhai y claddwyd cyrff y meirwon; yma medd eraill roedd y 'gaer' (Penllergaer) o ba le y gwyliai Hywel y frwydr yn datblygu'n waedlyd.

 

Tybed faint o ddysgu sydd o'r hanes hyn yn ein hysgolion lleol.  Yn 1985 bu cryn weithio a threfnu i sicrhau fod cofeb gwerth ei gweld yng Ngharn Goch.  Cloddiwyd carreg enfawr, hardd ac urddasol o chwarel yng Nghwm Gwendraeth a threfnwyd i'r fyddin diriogaethol ei chludo i'r fan.  Mae oddeutu traean ohoni o dan y ddaear.  Gwelir cen yn tyfu'n hardd drosti erbyn hyn.  Gerllaw hefyd mae'r cofnod ar lechi sydd yn ein hatgoffa o'r hanes.  Daeth y ddwy lechen hardd o fwrdd snwcer yng ngharchar Abertawe, eu glanhau, eu cerfio a'u cludo'n ddiogel i'r fan.

 

Gwrthododd yr awdurdodau dro ar ôl thro i roi arwydd i gyfeirio'r teithiwr at y maen coffa ac felly aeth rhywrai ati yn y dirgel i 'addasu' arwydd eu hunain a'i osod yn y fan a hwnnw'n union yr un peth yr olwg ag arwydd swyddogol at faes y gad.

 

Rhy hawdd yw anghofio aberth y Cymry a fu er ein mwyn.  Nid oedd yn wastraff ac heb eu llafur a'u merthyrdod mae'n bur debyg na fyddai gennym iaith, diwylliant, nac ymwybyddiaeth a arweiniodd at y Cynulliad ym Mae Caerdydd.  Diolchwn iddynt ac i'r miloedd eraill sydd wedi dioddef dros ein gwlad.  Mae'n braf nodi fod rhywrai o hyd yn ymdrechu i gynnal lleoliad y maen ac yn mynd o'u gwirfodd i dorri'r gwair ac i blannu blodau ac ati.

 

Am hanner dydd yn flynyddol ar ddydd Calan aiff rhai ohonom i gofio.  Cawn sefyll yno ger y maen i hel meddyliau, ceir ambell i air i'n hatgoffa o'r hyn a fu, ac yna cawn ganu ein hanthem genedlaethol.  Trueni fod cyn lleied yn mynychu bob blwyddyn, ond dyna ni, fel y dywed rhyw gân am frwydr arall tua Penyberth yn Mhen Llyn rhyw dro, “Does angen dim ond tri – i danio'r hen hen freuddwyd – a chynnau'r her a gollwyd – daw eto ddau neu dri.”

 

 


Saith

Cynhelir coffadwriaeth blynyddol Brwydr Llwchwr/Gwyr 1136 ar ddydd calan am hanner dydd yn Garn Goch. Bu farw cannoedd dros Gymru ym Mrwydr Llwchwr.   Yn 2011 saith ddaeth i gofio...

Eu hamdo oedd clô'u gorymdaith, - cofiwn

        eu cyfiawn caledwaith;

    I wrando gwlatgar araith

    Yn swil heddiw daeth ond saith.

 

Gwibient a'u cri'n llawn gobaith - i'w hangau'n

        Llwyr ingol dros heniaith;

    'N ufudd i gofio'r afiaith

    Yn syn eleni 'mond saith.

 

Uffern fu'r frwydr diffaith - y miri

       A'r marw bum-canwaith,

    Colli'r cyfan drwy anrhaith;

    Yn siom eleni daeth saith.

 

Er yr hoen ym mheirianwaith - y milwyr

        pery malais artaith

    Y gad a'i holl anfadwaith

    Erchyll; yn sefyll 'roedd saith.

  

Mil gwron frwydrodd estroniaith - cleddau

        Yn claddu eu gobaith;

    O'u gwirfodd nawr at gerfwaith

    Yn ddi-syfl coffa 'roedd saith.

 

Er eu rhwysg y gro oedd eu rhaith - o drwst

        Y drin a'u gorchestwaith

    O fynnu cartref uniaith;

    Dros Gymru'n sythu 'roedd saith.

 

Yn gryf nawr erys y graith - yn waddol

        I naddu gwlad berffaith,

    Gwaed cad yn adeiladwaith;

    Yn sicr, 'mond dechrau yw'r saith.

 

HDO