Lluniau Penodol

Dyma rai lluniau o feini a chromlechi ym Meirionnydd neu'n gyfagos na chynhwyswyd yn y gyfrol

Enw Lleoliad Llun Hanes
Carneddau Coed Croes, Dolgellau SH73001621  
Carneddau Coed Croes, Dolgellau SH73001621  
Bedd Taliesin, Tre Taliesin - Machynlleth SN671912

Taliesin (534 – 599)

Roedd Taliesin yn fardd enwog Cymraeg o’r chweched ganrif.  Roedd yn byw yn yr Hen Ogledd (heddiw = Gogledd Lloegr a De’r Alban).  Roedd yn fardd i frenin Brochfael Ysgithrog, brenin Cynan Garwyn, brenin Urien Rheged a’i fab, Owain ap Urien.  Mae llyfrau Cymraeg yn galw Taliesin yn Taliesin Ben Beirdd.  Dyma ddwy linell gyntaf Gwaith Argoed Llwyfain gan Taliesin:

Bore duw Sadwrn cad fawr a fu

O’r pan ddwyre haul hyd pan gynnu…

Mae hanes/chwedl (legend) plentyndod Taliesin yn ddiddorol:

Roedd Ceridwen yn wrach fawr flin, ac yn edrych yn salw. Dyn bach pitw oedd ei gŵr a doedd gyda fe ddim gwallt. Tegid Foel oedd ei enw. Roedd gyda nhw ddau o blant, Creirfyw - y plentyn delaf erioed.  Roedd Morfran yn salw iawn, ac roedd plant yr ardal yn ei ofn e (fear).  Cafodd e y ffugenw Afagddu.

Penderfynodd Ceridwen y wrach wneud hud a lledrith (magic and spells) i'w roi i Morfran. Byddai'r cymysgedd (mixture) yn ei wneud yn fwy deniadol (attractive), yn gryfach (stronger) ac yn rhoi doethineb (wisdom) iddo. Aeth Ceridwen ati (to it) i ddarllen ei llyfrau hud i weld pa gynhwysion (cynhwysion = ingredients) oedd eu hangen.

Roedd eisiau berwi'r dail (leaves) a'r blodau ddydd a nos am flwyddyn a diwrnod, nes bod dim ond tri diferyn (drop) ar ôl. Gofynnodd Ceridwen i Gwion Bach a hen ŵr dall o'r enw Morda i edrych ar ôl y pair (cauldron) hud iddi, am ei bod hi'n rhy brysur.

Ymhen (at the end of) blwyddyn a diwrnod, daeth y diwrnod mawr. Roedd Gwion a'r hen ŵr yn gofalu am y crochan (melting pot) pan dasgodd (splash) tri diferyn allan a glanio ar fys Gwion.  "Aaw!" meddai e a rhoi'r bys yn ei geg.  Llyncodd (swallowed) y tri diferyn hud oedd wedi eu bwriadu (intended) i Morfran.

Rhedodd Gwion Bach am y coed i guddio a rhoddodd Ceridwen fonclust (bonclust = clout) i'r hen ŵr. Roedd hi'n flin achos fod Gwion wedi llyncu'r diferion hud oedd i fod ar gyfer Morfran, ond erbyn hyn roedd Gwion wedi sylweddoli (realised) fod gydag e allu (gallu = ability) arbennig.

Medrai Gwion newid ei siâp, felly penderfynodd newid i mewn i sgwarnog (hare), fel nad oedd Ceridwen yn gallu ei ddal.  Ond achos fod Ceridwen yn wrach roedd hi yn gallu newid ei siâp a dyma hi yn troi i fewn i filgi (milgi = greyhound) i redeg ar ei ôl.

Roedd Ceridwen bron a’i ddal e pan gwelodd Gwion afon.  Taflodd (throw) ei hun i'r dŵr a throi ei hun yn frithyll (brithyll = trout).

Newidiodd y wrach ei hun yn ddyfrgi (dyfrgi = otter) a nofio'n gyflym ar ôl y pysgodyn.

Roedd Ceridwen bron a’i ddal eto pan neidiodd y brithyll o'r afon a throi yn golomen (dove). Trodd Ceridwen i mewn i hebog (hawk) a hedfan ar ei ôl. Wrth i'w chrafangau (talons) fynd am y golomen, aeth Gwion i guddio.

Aeth Gwion i sgubor (barn) a troi ei hun yn ronyn (gronyn = grain) o wenith (gwenith = wheat) a chuddio yno. Trodd Ceridwen ei hun yn iâr (hen), gan fwyta'r gwenith i gyd - gan gynnwys (including) Gwion Bach!

Ymhen amser, cafodd Ceridwen fabi ac roedd hi yn gwybod mai Gwion oedd e. Roedd yn faban del iawn ond doedd Ceridwen ddim eisiau ei gadw.  Penderfynodd roi'r babi mewn cwrwgl (coracle) a'i wthio (push) allan i'r môr ac anghofio amdano.

Yng Nghantre'r Gwaelod, yn Bae Aberteifi roedd Gwyddno Garanhir a'i fab Elffin yn byw. Roedd gan Gwyddno drap pysgod yn Y Borth ac un diwrnod aeth Elffin i weld faint o bysgod oedd ynddo. Syrthiodd (syrthio = to fall) ar ei ben i'r môr nes ei fod yn wlyb at ei groen (wlyb at ei groen = literally – wet to his skin / i.e. wet through).

Gwelodd Elffin a Gwyddno gwrwgl gyda babi bach pert ynddo. Cafodd Elffin gadw'r babi ac fe'i alwodd yn "Taliesin" am fod ganddo wyneb tlws. Roedd Taliesin yn alluog (clever) iawn a thyfodd (tyfu = grow) i fod yn fardd enwog iawn.

Bedd Taliesin, Tre Taliesin - Machynlleth SN671912