Rhowch glec ar y llyfr (uchod) i brynu.
Daeth argraffiad cyntaf y llyfr o wasg y Lolfa yng Ngorffennaf 2007, a'r ailargraffiad yng Ngorffennaf 2008.
Dyma farn rhai o'r adolygwyr:
Rhys Mwyn - Yr Herald Gymraeg: "Dyma un o'r llyfrau pwysicaf yn yr Iaith Gymraeg hyd yma! Mae'r llyfr yn hollol hollol hollol - HANFODOL!"
Y Faner Newydd: "Dyma un o'r cyfrolau harddaf a mwyaf diddorol i ymddangos yn y Gymraeg. Prynwch hi - mae'n gyfareddol."
Llais Llyfrau y BBC: "Mae'r gyfrol, sydd wedi ei sgrifennu yn amlwg gyda'r darllenydd cyffredin mewn golwg, yn sicr yn deffro diddordeb a thybed a allwn obeithio eu gweld yn ymestyn eu gweithgarwch i rannau eraill o Gymru? Byddai'n gasgliad difyr a gwerthfawr o lyfrau."
Dewi Prysor: "Hoffwn eich annog i brynu'r llyfr anhygoel o ddiddorol, Meini Meirionnydd... ...Mae mwy iddo na lluniau, hanes a chyfeirnodau grid, diolch i weledigaeth Huw Dylan Owen. Dwn i'm os ydw i wedi darllen llyfr mor ddiddorol erstalwm."
Y Dydd: "...cyfrol hardd, ddifyr ac addysgiadol dros ben gyda lluniau ardderchog."
Dail Dysynni: "Awgrym penigamp am anrheg i chi'ch hun! Lluniau'n plesio, englynion a hanesion diddorol. Gwaith ardderchog yn wir!"
Kenneth S. Brassil - Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd: "Yn naturiol y lluniau sydd yn tynnu sylw. Mae nifer fawr ohonynt yn wych. Ond y barddoniaeth sydd yn sicrhau fformiwla anarferol i'r gyfrol..."